Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 2023
Amser:
09.01 -
09.19
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Alun Davidson, Arweinydd Tîm Newid Cyfansoddiadol a Chlerc Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm.
Gofynnodd Heledd Fychan a fyddai'r Llywodraeth yn gwneud datganiad ar gau rhan o’r A470 yn Nhalerddig ar hyn o bryd. Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes na fyddai datganiad yn cael ei gyflwyno heddiw.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023 –
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
o Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
o Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023
o Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffosydd (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
· Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (5 munud)
· Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023 (15 munud)
· Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch amserlen y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).
4.2 Amserlen ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Biliau Diwygio er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol a gohiriodd benderfyniad ar amserlen y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor hwnnw, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4.3 Amserlen ar gyfer y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol a gohiriodd benderfyniad ar amserlen y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor hwnnw, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5 Gwaith Gweithdrefnol
5.1 Gweithdrefnau sy'n ofynnol er mwyn craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan
Yn dilyn argymhellion a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, trafododd y Pwyllgor Busnes gynigion ar gyfer:
Dywedodd y Trefnydd nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y cynigion yn angenrheidiol ar y sail nad yw'n ystyried bod Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn cael effaith ar ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ofyn am farn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Fforwm y Cadeiryddion am y cynigion, gyda’r bwriad o ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.